Dathliad Dargyfeiriol // Divergent Joviality
Canolfan Celf Aberystwyth, Ffenest Piazzo // Aberystwyth Art Centre, Piazzo Window
Gorffennaf 31 - Medi 30 // July 31 – September 30
Mae Dathliad Dargyfeiriol yn osodwaith newydd a grewyd gan yr artist aml-ddisgyblaethol Rebecca F Hardy sydd yn cyflwyno haenau cynnil a datganiadau uchel o liw a ffurf. Mae archwilio deunyddiau a’r berthynas rhwng arwyneb a gwrthrych, lliw, haenau a phatrymau yn gyrru’r proses greadigol. Mae’r ffurfiau haniaethol yn deillio o’i hastudiaeth ei hun o anatomeg yr ymennydd a’i dulliau gweithredu a’i dealltwriaeth ei hun o’i hymennydd dyslecsig. Mae’r cydbwysedd rhwng dim digon, gormod, yr hyn sy’n bleserus yn weledol a llanast llwyr, yn rhywbeth mae’r artist yn chwarae gydag ef yn gyson. Mae Rebecca F Hardy yn artist aml-ddisgyblaethol; mae ei gwaith yn adlewyrchu ei diddordeb dwys mewn catalogio arteffactau, symudiadau ailadroddus, a chynildeb gwrthrychau. Mae’r gwaith yn amrywio o luniau i brintiau sgrîn, ffotograffiaeth, fideo, celf fyw, ffurfiau cerfluniol a gosodweithiau.
~~~~
Divergent Joviality is a new installation by multi-disciplined artist Rebecca F Hardy which presents subtle implementation of layers and loud statements of colour and form. Exploring materials and relationships between surface and object, colour, layers, and patterns drive the creative process. The abstract forms are derived from her own study of brain anatomy and her own workings and understandings of her dyslexic brain. The balance between too little, too much, visually pleasing and just chaos is something the artists is in constant play with. Rebecca F Hardy is a multi-disciplined artist; her work is the prolonged fascination with cataloguing artefacts, repetitive movements, and the subtlety of objects. From drawings to screen-prints, photography, video, live-art, sculptural forms and installations.
Diolch i bwrsari datblygu gan // Thank you to the development bursary by a-n magazine